ironworks recording studio north wales

Amdanom Ni

Wedi dwy flynedd o waith, mae’r hen weithdy dur bellach wedi ei drawsffurfio’n stiwdio o’r gwneuthuriad gorau, ac mae wedi ei gynllunio a’i adeiladu i safon uchel.

Lleolir Stiwdio Crychddwr Gogledd Cymru ar odre Parc Cenedlaethol Eryri gan gynnig encil perffaith i unrhyw gerddor neu fand. Yn ogystal â’r stiwdio gyda’i ystafell reoli fawr, ystafell ‘fyw’ a bwth lleisiol, mae lle parcio diogel, cegin, cawod, ystafell ymlacio a defnydd am
ddim o’r we drwy gyswllt cyflym diwifr.


Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys recordio byw, cymysgu sain, meistrio sain, yn ogystal ag atgyweirio sain a fideo. Yma yn Stiwdio Crychddwr rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i dynnu’r gorau o bob artist ac ymdrechwn i sicrhau ein bod yn cynnig profiad ysbrydoledig, cyfforddus a phleserus i’n cwsmeriaid.