Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig ydyw i fandiau fod wedi paratoi ymlaen llaw cyn iddynt fynd i’r stiwdio i recordio. Paratoi a threfnu sydd yn allweddol i unrhyw fand yn dymuno cael y profiad gorau posib o‘u hamser mewn stiwdio. Cofier, nid dewiniaid sydd yma ! Rhaid i chwi gynllunio ymlaen llaw i ni allu cyfawni’n gwaith yn iawn.
Agwedd pwysicaf unrhyw sesiwn recordio yw sicrhau bod eich cyfarpar wedi eu gosod i fyny ac yn gweithio’n gywir. Mae’n syniad da i fynd ati rhai dyddiau cyn y sesiwn recordio i roi croen newydd ar y drymiau a gosod taenau newydd ar gitarau trydan, bâs ac acwstig.
Cyn unrhyw sesiwn recordio dylai band fynd ati ag ymarfer cyn gymaint a fo’n bosibl. Ambell waith, bydd ymarfer gyda trac clic yn werthfawr a chyrraedd cytundeb ymlaen llaw am yr amseriad gorau (CyF) i gân. Sicrhewch fod gennych syniad cadarn ynghylch y canlyniad disgwyliedig o’r recordiad. Bydd gweithio gyda chyfeirnod arweiniol yn gymorth enfawr i’r Peiriannydd a’r Cynhyrchydd.
Camgymeriad mwyaf a wneir gan lawer o fandiau sydd â chyllidebau caeth yw ceisio recordio gormodaeth o ganeuon o fewn amser cymharol fyr. Yn ymarferol, dylid anelu i recordio un cân pob dydd. Rhaid buddsoddi amser i gynhyrchu ansawdd ac fe ystyrir amynedd yn y stiwdio fel rhinwedd.
Os ydych am weithio gyda Chynhyrchydd yna dylid sicrhau fod y band ac ef wedi cael cyfle i adnabod eu gilydd cyn cychwyn y sesiwn recordio. Ceisiwch ei gynorthwyo ef a’r Peiriannydd cymaint a phosibl gan roi iddynt ddemo neu cyfeirnod arweiniol.
Yn olaf, ni ddylai stiwdio recordio greu ofn. Pe dilynwch yr ychydig gamau hyn, yna fe ddaw y gweddill i ddigwydd yn naturiol. I unrhyw fand, mae recordio yn gam mawr a chyffrous. Gydag amgylchedd cywir a phobl medrus ar eich cyfer, fydd yn gweithio’n galed i chwi, gellir cyflawni’r canlyniadau gorau posib.
Beth yw Cymysgu?
Mae cymysgu yn weithred hollol wahanol i recordio ac yn digwydd fel arfer unwaith mae’r holl ganeuon wedi eu recordio. Y grefft sydd i gymysgu yw rheoli a rhoi cydbwysedd i lefelau cymharol yn sain yr offerynnau. Gall hefyd ymwneud â nifer o weithrediadau ond, fel arfer, mae’n ymwneud â gweithredu deinamig ( EQ ac FX).
Beth yw Meistrio?
Meistrio yw’r weithred olaf cyn rhoi cân i ddisg. Gall hyn gynnwys nifer o bethau ond, yn arferol, mae’n golygu rhyw fath o weithredu ychwanegol er mwyn gwneud sain caneuon yn fwyfwy eglur a gwell. At y gweithredu ychwanegol yma mae hefyd orchwylion eraill yn digwydd, megis; rhoi trefn iawn i’r caneuon, golygu’r traws-dawelu a chodio PQ.
Sut mae hyn yn berthnasol chwi.
Yn aml mae bandiau yn diystyrru’r pwysigrwydd sydd i gymysgu a meistrio. Mwy na thebyg, caiff y gwaith cymysgu ei wneud gan gynhyrchydd y stiwdio ar ben ei hun a bydd ef, fel arfer, yn cadw cyswllt agos gyda’r band wrth iddo ymwneud â’r traciau. Gall cymysgiad dda fod y gwahaniaeth rhwng trac yn diweddu gyda sain ardderchog a sain cyffredin.
Yn ddibynnol ar maint y deunydd wedi ei recordio, bydd peiriannydd cymysgu, ar gyfartaledd, yn cymryd rhwng dwy ac wyth awr i wneud cymysgiad. Gall cymysgiadau cymhleth cymryd hyd at ddeuddydd i’w cwblhau. Gydag ystod eang o gyfarpar analog a chyfarpar digidol newydd yr ydym yn benodol gyda darpariaeth dda i wneud cymysgiadau rhyfeddol.
Y prif flaenoriaeth yma yn Stiwdio Crychddwr yw gwneud y traciau gorau posib o fewn cyllideb rhesymol. Cadw enw da yw’r prif ystyriaeth i ni ac, o’r herwydd, yr ydym yn ymdrechu i’r eithaf i sicrhau bod ein gwasanaeth o’r ansawdd gorau a bod ein cleientau yn gadael gyda teimlad o foddhad.